Ezra 8:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogram dau lestr rhyfeddol o gain wedi eu gwneud o bres wedi ei loywi, mor werthfawr ag aur.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ugain o flychau aur gwerth mil o ddrachmu, a dau lestr o bres melyn coeth, mor werthfawr ag aur.