Ezra 8:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o'r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i DDUW Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar ugain o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech‐aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw Israel — un deg dau o deirw dros bobl Israel i gyd, naw deg chwech hwrdd, a saith deg saith oen gwryw. Hefyd un deg dau bwch gafr yn offrwm dros bechod. Roedd y cwbl i gael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud boethoffrymau i Dduw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod, saith deg a saith o u373?yn, a deuddeg bwch yn aberth dros bechod; yr oedd y cwbl yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.