Ezra 9:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i'w meddiannu, gwlad halogedig yw hi, trwy halogedigaeth pobl y gwledydd, oblegid eu ffieidd‐dra hwynt, y rhai a'i llanwasant hi â'u haflendid o gwr bwygilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
drwy dy weision y proffwydi. Roedden nhw wedi dweud wrthon ni: ‘Mae'r tir dych chi'n mynd iddo wedi ei lygru gan arferion drwg y bobl sy'n byw yno. Maen nhw wedi llenwi'r wlad gyda'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a orchmynnaist trwy dy weision y proffwydi, gan ddweud, 'Gwlad halogedig yw'r wlad yr ydych yn mynd i'w meddiannu, wedi ei halogi gan ffieidd-dra pobloedd y gwledydd, sy'n ei llenwi 'u haflendid o un cwr i'r llall.