Ezra 9:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, na roddwch eich merched i'w meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwynt i'ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na'u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly peidiwch gadael i'ch plant briodi eu plant nhw. Peidiwch gwneud dim i'w helpu nhw i lwyddo a ffynnu. Wedyn byddwch chi'n gryf, ac yn mwynhau holl gynnyrch da'r tir, a byddwch yn gallu pasio'r cwbl ymlaen i'ch disgynyddion am byth.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly peidiwch rhoi eich merched i'w meibion, na chymryd eu merched i'ch plant; a pheidiwch byth cheisio eu heddwch na'u lles. Felly y byddwch yn gryf, ac yn mwynhau braster y wlad, a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch plant am byth.'