Ezra 9:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy NUW; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a'n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gweddïo, “O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu'n llwyr gan ein pechodau, ac mae'n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i'r nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud: "O fy Nuw, yr wyf mewn gwaradwydd, ac y mae cywilydd mawr arnaf godi fy wyneb atat, O Dduw, oherwydd y mae'n camweddau wedi codi'n uwch na'n pennau, a'n heuogrwydd wedi cynyddu hyd y nefoedd.