Ezra 9:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a'n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i'r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau'n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a'n brenhinoedd a'n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill — wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O ddyddiau ein hynafiaid hyd yn awr, mawr fu ein trosedd, ac o achos ein camweddau fe'n rhoed ni, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, yng ngafael brenhinoedd y gwledydd, i'r cleddyf, i gaethiwed, i anrhaith ac i warth, fel y mae heddiw.