Ezra 9:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr ARGLWYDD ein DUW, i adael i ni weddill i ddianc, ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd ef; fel y goleuai ein DUW ein llygaid, ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn ein caethiwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig wrthon ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi'n gwneud ni'n wirioneddol hapus, ac wedi'n rhyddhau ni o'n caethiwed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr, am ennyd, bu'r ARGLWYDD ein Duw yn raslon tuag atom a gadael inni weddill a rhoi sicrwydd inni yn ei le sanctaidd, er mwyn iddo oleuo ein llygaid a'n hadfywio am ychydig yn ein caethiwed.