Galatians 1:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr owrhon ai precethu ’r wyf athravveth dynion, ai ’r yddo Duw? ai ceisio ’ðwyf rengu boð dynion? o bleit a’s etwo y rengwn voð dynion, ny’ s byddwn was Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys yn awr ai dynion yr wyf yn eu perswadio, ai ynte Dduw? Ai ceisio yr wyf ryngu bodd dynion? Os etto rhyngu bodd dynion y byddwn, gwas i Grist ni fyddwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr awron, ynteu, ai boddhau dynion yr wyf ai Duw? — neu geisio bodloni dynion? Pe bawn eto yn bodloni dynion, ni byddwn gaethwas Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, ydw i'n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i'n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i'r Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn 'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn awr ai am ennill ffafr dynion yr wyf, neu ynte Duw? A ydwyf yn ceisio boddloni dynion? Os hyd yn hyn y byddwn yn boddloni dynion, ni fyddwn was i Grist.