Galatians 1:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Weithion y mynnaf ywch wybot, vrodyr, am yr Euangel a precethwyt geny vi, nad oedd hi erwyð dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys hyspysu yr wyf i chwi frodyr, am yr Efengyl a efengylwyd genyf, nad ydyw yn ol dyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys hysbysu yr wyf i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yn ôl dyn y mae hi:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy'r newyddion da yma dw i'n ei gyhoeddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf am roi ar ddeall i chwi, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad rhywbeth dynol mohoni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr wyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad ydyw yn ol dyn.