Galatians 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can na’s d erbyniais y hi gan ddyn, ac ny’m dyscwyt hi i mi, eithr trwy ddatguddiat Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys myfi, nid gan ddyn y derbyniais hi, nac y’m dysgwyd, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd nid gan ddyn derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd ynddi, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid ei derbyn fel traddodiad dynol a wneuthum, na chael fy nysgu ynddi chwaith; trwy ddatguddiad Iesu Grist y cefais hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd, ond trwy ddadguddiad Iesu Grist.