Galatians 1:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr pan vu dda gan Dduw (yr hwn am gohanesei o groth vy mam, ac am galwesei trwy y rat ef)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pan foddlonwyd Duw, yr Hwn a’m neillduodd o groth fy mam, ac a’m galwodd trwy Ei ras,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan fu da gan hwnnw a’m neilltuodd o groth fy mam, ac a’m galwodd trwy ei ras,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neilltuodd i o groth fy mam, ac a'm galwodd i trwy ei ras,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e'n anhygoel o garedig tuag ata i trwy fy ngalw i'w ddilyn. Gwelodd yn dda
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dyma Dduw, a'm neilltuodd o groth fy mam ac a'm galwodd trwy ei ras, yn dewis
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neillduodd o'm genedigaeth, ac a'm galwodd trwy ei ras,