Galatians 1:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ny ddaethym drachefn i Caerusalem at yr ei ’n a vesynt Apostolion o’m blaen i, anyd myned avvnaethym i Arabia, ac a ðychwelais drachefn i Damasco.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid aethum i fynu i Ierwshalem at y rhai oeddynt o’m blaen i yn apostolion, eithr aethym ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nid euthum i fyny i Gaersalem chwaith at y rhai oedd Apostolion o’m blaen i, ond euthum ymaith i Arabia, a thrachefn dychwelais i Ddamascus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o'm blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i'n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a heb fynd i fyny i Jerwsalem chwaith at y rhai oedd yn apostolion o'm blaen i, euthum i ffwrdd i Arabia, ac yna dychwelyd i Ddamascus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nid aethum ymaith i fyny i Jerusalem at y rhai oeddynt o'm blaen i yn apostolion, eithr aethum ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Damascus.