Galatians 1:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr clywed a wnaethent vvy yn vnic rei yn ddyvvedyt, Yr vn oeð yn ein ymlit ni gynt, ’sydd yr awrhon yn precethu’r ffydd, yr hon oedd ef gynt yn hi anreithiaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yn unig clywed yr oeddynt, Yr hwn a’n herlidiai gynt, sydd yr awr hon yn efengylu y ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yn unig, clywed yr oeddynt, “Ein herlidiwr ni gynt, y mae ef yn awr yn pregethu’r ffydd a ddifrodai o’r blaen”,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu'r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae'r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae'n cyhoeddi'r newyddion da oedd e'n ceisio ei ddinistrio o'r blaen!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dim ond eu bod yn clywed rhai'n dweud, "Y mae ein herlidiwr gynt yn awr yn pregethu'r ffydd yr oedd yn ceisio'i difrodi o'r blaen."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn unig yr oeddynt yn clywed: Yr hwn oedd gynt, yn ein herlid, sydd yn awr yn pregethu y Ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio;