Galatians 1:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ryveð yw genyf mor vuan ich ysmutwyt ymaith i Euangel arall, y wrth yr vn ach galwesei yn rhat Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr hwn a’ch galwodd trwy ras Crist, i efengyl arall;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhyfedd gennyf eich symud cyn gynted oddiwrth y neb a’ch galwodd chwi trwy ras Crist, i efengyl arall,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a'ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n ei chael hi'n anodd credu eich bod chi'n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi'ch galw chi ato'i hun trwy haelioni'r Meseia — a derbyn rhyw syniadau eraill sy'n honni bod yn ‛newyddion da‛.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn synnu eich bod yn cefnu mor fuan ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist, ac yn troi at efengyl wahanol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yng ngras Crist i efengyl wahanol,