Galatians 1:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pe ’s ny ni neu Angel o’r nef a brecethei ywch amgen, na hynn a precethesam ywch, malldigedic vo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr pe bai hyd yn oed nyni, neu angel o’r nef, yn efengylu i chwi amgen na’r hon a efengylasom i chwi, anathema fydded.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond hyd yn oed os efengylwn ni neu angel o nef i chwi beth amgen nag a efengylasom ichwi, bydded anathema.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pe byddai i ni, neu i angel o'r nef, efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Melltith Duw ar bwy bynnag sy'n cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni'n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o'r nefoedd, melltith Duw arno!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pe bai hyd y nod i nyni neu angel o'r nef efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded felldigedig.