Galatians 1:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal y racddywedasam, velly y dywedaf yr awrhon drachefn, A’s precetha neb y chwy yn amgen ach, nac yd er byniesoch, malldicedic vo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fel y dywedasom o’r blaen, yr awr hon hefyd trachefn yr wyf yn dywedyd, Os bydd i neb efengylu i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, anathema fydded.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Megis y dywedasom eisoes, dywedyd yr wyf eto yr awron, od oes neb yn efengylu i chwi beth amgen nag a dderbyniasoch, bydded anathema.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dweud o'r blaen a dw i'n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Megys y dywedasom o'r blaen, yr wyf hefyd yn awr drachefn yn dywedyd, Os oes neb yn efengylu i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded felldigedig.