Galatians 2:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy dyvot Petr i Antiocheia, mi y gwrthsefais ef yn ei wynep: can ys y vot ar vai.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pan ddaeth Cephas i Antiochia, i’w wyneb y gwrth-sefais ef, canys condemniedig ydoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth Ceffas i Antiochia, sefais i’w erbyn yn ei wyneb, oblegid ar gam yr oedd:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a'i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i'w feio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn pan ddaeth Pedr i ymweld ag Antiochia, roedd rhaid i mi dynnu'n groes iddo, am ei bod hi'n amlwg ei fod e ar fai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan ddaeth Ceffas i Antiochia, fe'i gwrthwynebais yn ei wyneb, gan ei fod yn amlwg ar fai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth Cephas i Antioch, mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb, canys yr oedd yn gondemniedig.