Galatians 2:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit cyn dyvot ’rei ywrth Iaco, ef a vwytaei gyd a’r Cenetloedd: anyd gwedy y dyvot h wy, ef a enciliawdd ac ymhanodd yvvrthynt, can iddo ofni rac yr ei oeddent o’r Enwaediat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys cyn dyfod o rai oddiwrth Iago, ynghyda’r cenhedloedd y bwyttaai; ond pan ddaethant, cilio ac ymddidoli yr oedd efe, gan ofni y rhai o’r amdorriad;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, cyd-fwytâi â’r cenhedloedd; ond wedi eu dyfod hwynt, dechreuodd dynnu’n ôl ac ymgadw draw, rhag ofn teulu’r enwaediad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda'r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a'i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni'r rhai oedd o'r enwaediad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y dechrau roedd yn ddigon parod i rannu pryd o fwyd gyda phobl oedd ddim yn Iddewon. Ond dyma ryw ddynion yn cyrraedd oedd wedi dod oddi wrth Iago yn Jerwsalem, a dyma Pedr yn dechrau cadw draw a thorri cysylltiad â'r Cristnogion hynny oedd ddim yn Iddewon. Roedd yn poeni am y rhai oedd yn credu bod defod enwaediad yn hanfodol bwysig — beth fydden nhw'n ei feddwl ohono.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, cyn i rywrai ddod yno oddi wrth Iago, byddai ef yn arfer cydfwyta gyda'r Cristionogion cenhedlig, ond wedi iddynt ddod, dechreuodd gadw'n l ac ymbellhau, am ei fod yn ofni plaid yr enwaediad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, efe a fwyttâodd gyda'r Cenhedloedd; ond pan ddaethant, efe a dynnodd yn ol ac a ymwahanodd, gan ofni y rhai oedd o'r enwaediad.