Galatians 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iuddaeon eraill cydffuantu ac ef a wnaethant, yd y n y ðucit Barnabas yw ffuant wy hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ynghydag ef y cyd-ragrithiodd y lleill hefyd o’r Iwddewon, fel y bu i Barnabas hefyd ei ddwyn ymaith â’u rhagrith hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyd-ragrithiodd yr Iddewon eraill ag ef, fel yr ysgubwyd Barnabas yntau i ganlyn eu rhagrith hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i'w rhagrith hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r Cristnogion Iddewig eraill yn dechrau rhagrithio yr un fath â Pedr. Cafodd hyd yn oed Barnabas ei gamarwain ganddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymunodd yr Iddewon eraill hefyd yn ei ragrith, nes ysgubo Barnabas yntau i ragrithio gyda hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chydag ef hefyd y cyd‐ragrithiodd y lleill o'r Iuddewon, fel y dygwyd ymaith Barnabas hefyd â'u rhagrith hwy.