Galatians 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan welais, nad oeddent yn troedio yn vnion at ’wirionedd yr Euāgel, y dywedais wrth Petr yn‐gwyð pawp oll, A’s tu di ac yn Iuddew wyt yn byw mal y Cenetloedd, ac ny d mal yr Iuddeon, paam y cympelly ni y Cenetloedd y vyw mal yr Iuddeon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr pan welais nad iawn-droedient yn ol gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Cephas ger bron pawb, Os tydi, a thi yn Iwddew, wyt yn byw fel y cenhedloedd ac nid yn Iwddewaidd, pa sut yr wyt yn cymhell y cenhedloedd i fyw yn Iwddewaidd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr pan welais nad oeddynt yn iawn-droedio yn ôl gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Geffas yng ngŵydd pawb: Os wyt ti, â thithau’n Iddew, yn byw ar ddull cenhedlig, ac nid ar ddull Iddewig, paham y gorfyddi’r cenhedloedd i ymarwedd megis Iddewon?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd hi'n gwbl amlwg i mi eu bod nhw'n ymddwyn yn groes i wirionedd y newyddion da. Felly dyma fi'n dweud wrth Pedr o'u blaen nhw i gyd, “Rwyt ti'n Iddew, ac eto rwyt ti'n byw fel pobl o genhedloedd eraill, felly sut wyt ti'n cyfiawnhau gorfodi pobl o'r gwledydd hynny i ddilyn traddodiadau Iddewig?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan welais nad oeddent yn cadw at lwybr gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Ceffas yng ngu373?ydd pawb, "Os wyt ti, er dy fod yn Iddew, yn byw nid fel Iddew ond fel Cenedl-ddyn, pa hawl sydd gennyt ti i orfodi'r Cenhedloedd i fyw fel Iddewon?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn‐droedio yn ol gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Cephas yn eu gŵydd hwynt oll, Os wyt ti, a thi yn Iuddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iuddewon, pa fodd yr wyt yn dirgymhell y Cenhedloedd i fyw fel Iuddewon?