Galatians 2:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a wyðam na chyfiawn hei r dyn gan weithredoedd y Ddeddyf, anyd gan ffydd Iesu Christ: ’sef ny ni meddaf, a credesam yn Iesu Christ, mal in cyfiown h eid y gan ffydd Iesu Christ, ac nyd gan weithrede dd y Ddeddyf, o bleit gan weithrede dd y Ddeddyf ny chyfiawn he ir vn cnawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd y Gyfraith, eithr trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd, yng Nghrist Iesu y credasom fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd y Gyfraith; canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
â ni’n gwybod na chyfiawnheir dyn trwy weithredoedd deddf, namyn trwy ffydd yng Nghrist Iesu, credasom ninnau hefyd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd deddf; canys trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dŷn ni'n gwybod mai dim cadw yn ddeddfol holl fanion y Gyfraith Iddewig sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn. Credu fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon sy'n gwneud hynny. Felly roedd rhaid i ni'r Iddewon hefyd gredu yn y Meseia Iesu — credu mai ei ffyddlondeb e sy'n ein gwneud ni'n iawn gyda Duw dim cadw manion y Gyfraith Iddewig! ‘All neb fod yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac eto fe wyddom na chaiff neb ei gyfiawnhau ond trwy ffydd yn Iesu Grist, nid trwy gadw gofynion cyfraith. Felly fe gredasom ninnau yng Nghrist Iesu er mwyn ein cyfiawnhau, nid trwy gadw gofynion cyfraith, ond trwy ffydd yng Nghrist, oherwydd ni chaiff neb meidrol ei gyfiawnhau trwy gadw gofynion cyfraith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd deddf, ond trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist ac nid trwy weithredoedd deddf; oblegyd ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd deddf.