Galatians 2:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
im crogwyt y gyd a Christ. Val hyn byw ytwyf eto, nyd my vi yr awrhon, eithr Christ ’sy vyw yno vi: ac am y byw ddwy ’r owrhon yn y cnawd byw ddwyf gan ffyð ym‐Map Duw, yr hwn a’m carawdd, ac ei rhoðes y hunan y trosof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ynghyda Christ y’m croes-hoeliwyd; eithr byw ydwyf; ond ddim mwyach myfi, ond byw ynof y mae Crist; a’r hyn yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, mewn ffydd yr wyf yn ei fyw, sef y ffydd ym Mab Duw, yr Hwn a’m carodd ac a’i dodes Ei hun drosof.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; ac nid myfi mwy sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a’m bywyd yr awron yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf mewn ffydd ym Mab Duw, a’m carodd i, ac a’i traddodes ei hun drosof fi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a'r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac felly nid fi sy'n byw bellach, ond y Meseia sy'n byw ynof fi. Dw i'n byw y math o fywyd dw i'n ei fyw nawr am fod Mab Duw wedi bod yn ffyddlon, wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy'n byw, ond Crist sy'n byw ynof fi. A'r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nid myfi mwyach sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a'r hyn yn awr yr wyf yn ei fyw yn y cnawd, yr wyf yn ei fyw mewn ffydd, yr hon sydd ym Mab Duw, yr Hwn a'm carodd ac a'i rhoddes ei Hun i fyny drosof.