Galatians 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithr na T h itus rhwn oedd gyd a my vi, cyd bei ef Groecwr, ny chym p ellwyt yw enwaedu
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr ni fu i hyd yn oed Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ei gymhell i amdorri arno,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr hyd yn oed Titus, ac yntau gyda mi, ac yn Roegwr, ni orfuwyd enwaedu arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed orfodi Titus i fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, a dydy e ddim yn Iddew.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni orfodwyd enwaedu ar fy nghydymaith Titus hyd yn oed, er mai Groegwr ydoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr hyd y nod Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ni orfodwyd i enwaedu arno: