Galatians 2:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei ny chynwysesam o ddarestyngedigeth enhyd awr, val y trigei gwirionedd yr yr Euangel yn safadwy y gyd a chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r rhai ni fu i ni hyd yn oed am awr ymostwng mewn darostyngiad, fel y byddai i wirionedd yr Efengyl barhau gyda chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
iddynt hwy nid ymroisom, naddo dros awr, â chyfryw ymddarostyngiad, fel yr arhosai gwirionedd yr Efengyl o’ch rhan chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond wnaethon ni ddim rhoi i mewn iddyn nhw o gwbl. Roedden ni am wneud yn siŵr eich bod chi'n dal gafael yng ngwirionedd y newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni ildiasom iddynt trwy gymryd ein darostwng, naddo, ddim am foment, er mwyn i wirionedd yr Efengyl aros yn ddianaf ar eich cyfer chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i'r rhai ni roisom ffordd mewn ymostyngiad, naddo, am awr, fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.