Galatians 2:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chan yr ei a dybit eu bot yn vawr, ny ddysceis ddim (beth oedden wy gynt, ny’m dawr i: ny chymer Duw ansawd vn dyn) er hyny, yr ei pennaf ny chydesponiesant ddim a mi vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond gan y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhyw beth (pa fath bynnag oeddynt, i mi ni wna ddim gwahaniaeth, gwyneb dyn Duw ni dderbyn,) canys i mi y rhai mewn cyfrif ni chwanegasant ddim;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan y rhai y tybir eu bod yn “awdurdodau”, — pa fath oeddynt unwaith, nid yw ddim i mi (nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn) — i mi, meddaf, ni chwanegodd yr “awdurdodau” un peth:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly beth oedd ymateb yr arweinwyr ‛pwysig‛ yma? — (dydy pwy oedden nhw'n gwneud dim gwahaniaeth i mi — does gan Dduw ddim ffefrynnau!) Doedd ganddyn nhw ddim o gwbl i'w ychwanegu at fy neges i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond am y rhai a gyfrifir yn rhywbeth (nid yw o ddim gwahaniaeth i mi beth oeddent gynt; nid yw Duw yn ystyried safle unrhyw un), nid ychwanegodd yr arweinwyr hyn ddim at yr hyn oedd gennyf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond oddiwrth y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhywbeth (pa beth bynnag oeddynt, ni wna ddim gwahaniaeth i mi, nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn), canys y rhai mewn cyfrif ni chyfranasant ddim i mi: