Galatians 2:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ phan wybu Iaco, a’ C h ephas, ac Ioan am y rat a roddwyt i mi, yr ei a gyfrifir eu bot yn golo f nae, wy roesant i mi ac i Barnabas ddeau ddwylaw cymddeithas, val y byddei y ni precethu ir Cenetloedd, ac wynteu ir ei or Enwaediat,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
tuag at y cenhedloedd;) ac wedi gweled y gras a roddwyd i mi, Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid mai colofnau oeddynt, a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu-ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac â hwy yn canfod y gras a roddwyd i mi, rhoddes Iago a Cheffas ac Ioan, y rhai y tybir eu bod yn golofnau, ddeheulaw cymdeithas i mi a Barnabas, fel y byddem, nyni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaededig:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iago, Pedr ac Ioan (y rhai sy'n cael eu cyfri fel ‛y pileri‛, sef yr arweinwyr pwysica) yn derbyn Barnabas a fi fel partneriaid llawn. Roedden nhw'n gweld mai Duw oedd wedi rhoi'r gwaith yma i mi. Y cytundeb oedd ein bod ni'n mynd at bobl y cenhedloedd a nhw'n mynd at yr Iddewon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma Iago a Ceffas ac Ioan, y gwu375?r a gyfrifir yn golofnau, yn cydnabod y gras oedd wedi ei roi i mi, ac yn estyn i Barnabas a minnau ddeheulaw cymdeithas, ac yn cytuno ein bod ni i fynd at y Cenhedloedd a hwythau at yr Iddewon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a phan wybu Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu‐ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.