Galatians 3:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A Galatieit ynfidion, pwy a’ch llygatdynawdd chwi, val na ’lynech wrth y gwiri onedd, i ba ’r ei y racyscythrwyt, Iesu Christ o vlaen eich llygait, ac yn eich plith y crogwyt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O Galatiaid difeddwl, pwy a’ch swynodd chwi, i’r rhai, o flaen eich llygaid, y bu i Iesu Grist Ei bortreiadu yn groes-hoeliedig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O, Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygatynnodd chwi, a Iesu Grist wedi ei arddangos o flaen eich llygaid chwi yn groeshoeliedig?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O y Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi bobl Galatia, ydych chi wir mor dwp â hynny? Pwy sydd wedi'ch hudo chi? Cafodd ystyr marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes ei esbonio'n glir i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y Galatiaid dwl! Pwy sydd wedi eich rheibio chwi, chwi y darluniwyd ar goedd o flaen eich llygaid, Iesu Grist wedi'i groeshoelio?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O Galatiaid anneallus, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi, i'r rhai, o flaen eich llygaid, y portreiadwyd Iesu Grist yn groeshoeliedig?