Galatians 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cynniuer ac ynt o weithre dd y Ddeddyf, y dan velltith y maent: can yscrivenedic yw, Ys malldigedic pop vn nyd erys yn yr oll petheu, a yscrivennir yn llyfer y Ddeddyf, y’w gwneuthur vvynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys cynnifer ag y sy o weithredoedd y Gyfraith, tan felldith y maent, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un nad yw yn parhau yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, i’w gwneuthur hwynt.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys cynifer oll ag y sydd o deulu gweithredoedd deddf, o dan fellith y maent; canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un nad erys wrth bob peth a sgrifennwyd yn llyfr y ddeddf i’w gwnethur hwynt
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n meddwl y byddan nhw'n iawn am eu bod nhw'n cadw manion y Gyfraith Iddewig yn dal i fyw dan gysgod melltith. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Melltith ar bawb sydd ddim yn dal ati i wneud pob peth mae Llyfr y Gyfraith yn ei ddweud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: "Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cynnifer ag y sydd o weithredoedd deddf, dan felldith y maent, canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un nad yw yn aros yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn Llyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt;