Galatians 3:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na chyfiawnir neb un wrth y Ddeðyf yn‐golwc Duw, amlwc yw: can ys y cyfiawn vydd‐byw wrth ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac mai trwy’r Gyfraith nad oes neb yn cael ei gyfiawnhau gyda Duw sydd eglur, canys, “Y cyfiawn trwy ffydd a fydd byw;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac eglur yw na chyfiawnheir neb wrth ddeddf ger bron Duw, canys y cyfiawn trwy ffydd y bydd byw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na chyfiawnheir neb trwy'r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae'n gwbl amlwg fod y Gyfraith ddim yn gallu dod â neb i berthynas iawn gyda Duw, am mai “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, "Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac na chyfiawnheir neb trwy ddeddf ger bron Duw, eglur yw; canys, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd;