Galatians 3:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Ddeddyf nyd yw o ffydd: eithyr y dyn a wnel y petheu hyny, a vydd byw yntynt vvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r Gyfraith nid yw o ffydd, eithr, “Yr hwn a’u gwnaeth fydd byw ynddynt.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond y ddeddf, nid o ffydd y mae, eithr y neb a wna’r pethau hyn, bydd byw drwyddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna'r pethau hynny, a fydd byw ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r syniad o gadw rheolau'r Gyfraith yn hollol wahanol — does dim angen ffydd. Dweud mae'r Gyfraith: “Y rhai sy'n gwneud y pethau hyn i gyd sy'n cael byw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eithr nid "trwy ffydd" yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, "Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r Ddeddf nid yw o ffydd, eithr, Yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn a fydd byw ynddynt.