Galatians 3:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Christ a’n prynawdd ni ywrth velldith y Ddeddyf, pan wnaethpwyt ef yn velldith trosam, (can ys y mae ’n scrivenedic, Ys malldicedic pop vn ’sy ynghroc a’r bren)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Crist a’n prynodd ni o felldith y Gyfraith, wedi myned trosom yn felldith, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Crist a’n prynodd ni oddiwrth felltith y ddeddf trwy ddyfod yn felltith drosom, canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un a fo crog ar drostan,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Crist a'n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Gyfraith yn ein melltithio ni — roedden ni i gyd yn gaeth! Ond wedyn daeth y Meseia a thalu'r pris i'n gollwng ni'n rhydd. Cafodd e ei felltithio yn ein lle ni. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae pawb sy'n cael eu crogi ar bren wedi eu melltithio.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: "Melltith ar bob un a grogir ar bren!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Crist a'n llwyr‐brynodd ni o felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren;