Galatians 3:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
val y delei vendith Abraham ar y Cenetloedd trwy Christ Iesu, val yd erbyniem addewit yr Yspryt trwy ’r ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel at y cenhedloedd y delai bendith Abraham yng Nghrist Iesu, fel y byddai addewid yr Yspryd i’w gael genym trwy ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y delai bendith Abraham i’r cenhedloedd yn Iesu Grist, a derbyn ohonom ninnau drwy ffydd addewid yr Ysbryd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Talodd y Meseia Iesu y pris i'n gollwng ni'n rhydd, er mwyn i bobl o'r cenhedloedd eraill i gyd gael profi'r un fendith ag Abraham. Ac wrth gredu dŷn ni hefyd yn derbyn yr Ysbryd gafodd ei addo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y delai i'r Cenhedloedd fendith Abraham yn Iesu Grist, fel y derbyniem addewid yr Yspryd trwy ffydd.