Galatians 3:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Weithion i Abraham ac y’w had y gwnaethpwyt y gaddeweidion. Ny ddywet ef, Ac i’r hadae, megis yn dyvvedyt am lawer: eithyr, Ac ith had ti, megis am vn, yr hwn yw Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac i Abraham yr adroddwyd yr addewidion, ac i’w had. Ni ddywaid, Ac i’r hadau fel am lawer, eithr fel am un, “Ac i’th had,” yr hwn yw Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef: ni ddywedir “ac i’w hadau”, megis am liaws, eithr megis am un, ac i’th had di, sef yw hwnnw, Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i'w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i'w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i'th had di, yr hwn yw Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, roedd Duw wedi rhoi addewid i Abraham ac i un o'i ddisgynyddion — sylwch mai ‛hedyn‛ ydy'r gair sy'n cael ei ddefnyddio yn yr ysgrifau sanctaidd, dim y gair lluosog ‛hadau‛ fyddai'n cyfeirio at lawer o bobl. Y ffurf unigol sy'n cael ei ddefnyddio, ac felly mae'n sôn am un person yn unig, sef y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, i Abraham y rhoddwyd addewidion y cyfamod, ac i'w had ef. Ni ddywedir, "ac i'th hadau", yn y lluosog, ond, "ac i'th had di", yn yr unigol, a'r un hwnnw yw Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr i Abraham y llefarwyd yr addewidion, ac i'w hâd. Ni ddywed, Ac i hâdau, fel am lawer, eithr fel am un, Ac i'th hâd, yr hwn yw Crist.