Galatians 3:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a ddywedaf, am y Ddeddyf yr hon oedd petwarcent a dec blynedd ar vcain gwedy, na ddichon hi ðiðymio yr Am b ot yr hon a racgadarnheit gan Dduw erwydd Christ, val y dirymia hi yr aðewit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn a ddywedaf, Cyfammod a rag-gadarnhawyd gan Dduw, y Gyfraith yr hon a wnaed bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi’n, nid yw yn ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ddieffaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma fy meddwl — am gyfamod a gadarnhawyd ymlaen llaw gan Dduw, nid yw’r ddeddf a ddaeth bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi hynny, yn ei ddiddymu hyd at ddirymu’r addewid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw'r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth dw i'n ei ddweud: Allai'r Gyfraith, oedd wedi ei rhoi ar ôl 430 mlynedd, ddim dileu yr ymrwymiad hwnnw oedd Duw wedi ei wneud gynt ac wedi addo ei gadw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma yr wyf yn ei olygu: yn achos cyfamod oedd eisoes wedi ei gadarnhau gan Dduw, nid yw cyfraith, sydd bedwar cant tri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ei ddirymu, nes gwneud yr addewid yn ddiddim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: Cyfammod a rag‐gadarnhawyd gan Dduw, nid yw y Ddeddf, yr hon a ddaeth bedwar cant a deg‐ar‐hugain o flynyddoedd wedi hyn, yn ei ddirymmu, fel ag i wneuthur yr addewid yn ddieffaith.