Galatians 3:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit a’s o’r Ddeðyf y mae ’r etiveddieth, nyd yvv ynteu mwy wrth y gaddewit, eithr Duw a roðes yr etiueddieth i Abraham wrth ’addewit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os o’r Gyfraith y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond i Abraham trwy addewid y rhoddodd Duw hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os wrth ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach wrth addewid: ond i Abraham, trwy addewid y mae Duw wedi ei rhad-roddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os o'r ddeddf y mae'r etifeddiaeth, nid yw haeach o'r addewid: ond Duw a'i rhad roddodd i Abraham trwy addewid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy derbyn y cwbl mae Duw am ei roi i ni yn dibynnu ar gadw'r Gyfraith Iddewig, dydy e ddim yn ganlyniad i'r ffaith fod Duw wedi gwneud addewid! Ond beth wnaeth Duw yn ei haelioni oedd gwneud addewid i Abraham.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, os trwy gyfraith y mae'r etifeddiaeth, yna nid yw mwyach trwy addewid; ond trwy addewid y mae Duw o'i ras wedi ei rhoi i Abraham.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os o ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond Duw a'i rhad‐roddodd i Abraham trwy addewid.