Galatians 3:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
I ba beth gan hyny y gvvasanaetha ’r Ddeddyf? O bleit trosoddeu y doded y hi, y’n y ðelei yr had hvvnvv y gwnaed yr addewit yddaw: ac y hi a ordeiniwyt gan Angelion yn llaw Cyfryngwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny, yw ’r Gyfraith? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg nes dyfod o’r had i’r hwn yr addawyd, wedi ei hordeinio trwy angylion, trwy Enw cyfryngwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth gan hynny am y ddeddf? I beri troseddau yr atodwyd hi, hyd oni ddelai’r had y gwnaethpwyd yr addewid iddo, a’i gorchymyn drwy angylion yn llaw canolwr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth gan hynny yw'r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai'r had, i'r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly beth oedd diben rhoi'r Gyfraith? Cafodd ei rhoi i ddangos i bobl beth ydy ystyr pechu, hyd nes i'r ‛hedyn‛ y soniwyd amdano gyrraedd — sef yr un oedd yr addewid yn cyfeirio ato. Cofiwch hefyd fod Duw wedi defnyddio angylion i roi'r Gyfraith i ni, a hynny trwy ganolwr, sef Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth, ynteu, am y Gyfraith? Ar gyfrif troseddau yr ychwanegwyd hi, i aros hyd nes y byddai'r had, yr un y gwnaed yr addewid iddo, yn dod. Fe'i gorchmynnwyd trwy angylion, gyda chymorth canolwr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa beth gan hynny yw y Ddeddf? Ychwanegwyd hi oblegyd troseddau, hyd oni ddeuai yr hâd i'r hwn y mae yr addewid wedi ei gwneuthur, wedi ei hordeinio trwy angelion trwy law cyfryngwr.