Galatians 3:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A yvv ’r Ddeddyf gan hyny yn erbyn yr a ddeweid ion Duw? Ymbell oeð: Can ys pe rhoesit Deðyf a allesei beri bywhau, yn wir e vesei cyfiawnder o’r Ddeðyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A ydyw’ r Gyfraith, gan hyny, yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw; canys pe rhoddasid cyfraith yn medru bywhau, yn wir o’r Gyfraith y buasai cyfiawnder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ydyw’r ddeddf gan hynny yn groes i addewidion Duw? Na ato. Canys pe rhoisid deddf ag iddi allu i beri bywyd, drwy’r ddeddf yn wir y buasai cyfiawnder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ydyw'r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o'r ddeddf y buasai cyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, ydy hyn yn golygu bod y Gyfraith yn gwrth-ddweud beth wnaeth Duw ei addo? Na, dim o gwbl! Petai Duw wedi rhoi cyfraith oedd yn gallu rhoi bywyd i bobl, yna'n sicr byddai pobl yn gallu cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r gyfraith honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A yw'r Gyfraith, ynteu, yn groes i addewidion Duw? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd pe bai cyfraith wedi ei rhoi 'r gallu ganddi i gyfrannu bywyd, yna, yn wir, fe fyddai cyfiawnder trwy gyfraith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A yw y Ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw. Canys pe rhoddasid deddf yn gallu bywhâu, yn wir o ddeddf y buasai cyfiawnder.