Galatians 3:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yr Scrythur ’lan a argaeawdd yr oll petheu y dan pechot, y’ny roðdit y gaddewit wrth ffydd Iesu Christ ir sawl a credant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr, cyd-gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y byddai i’r addewid, trwy ffydd yn Iesu Grist, ei roddi i’r rhai sy’n credu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr cyd-gaeodd yr ysgrythur bob peth oddi tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd yn Iesu Grist i’r sawl sy’n credu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i'r rhai sydd yn credu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r ysgrifau sanctaidd yn dangos yn glir fod pawb drwy'r byd i gyd yn gaeth i bechod. Y rhai sy'n credu sy'n derbyn beth wnaeth Duw ei addo, a hynny am fod Iesu Grist wedi bod yn ffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid felly y mae; yn l dyfarniad yr Ysgrythur, y mae'r byd i gyd wedi ei gaethiwo gan bechod, er mwyn peri mai trwy ffydd yn Iesu Grist, ac i'r rhai sy'n meddu'r ffydd honno, y rhoddid yr hyn a addawyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr cyd‐gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid a ddaw o ffydd Crist Iesu i'r rhai sydd yn credu.