Galatians 3:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd oes nac Iuddew na Groecwr: nid oes na chaeth na rryð: nyd oes na gwrryw na benyw: can ys yr vn y d yw‐chwi oll yn‐Christ Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid oes yno Iwddew na Groegwr; nid oes yno gaeth na rhydd: nid oes yno wrryw na bannyw; canys yr oll o honoch, un ydych yng Nghrist Iesu; ac os a chwi yn eiddo Crist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni all bod nac Iddew na Groegwr, ni all bod na chaeth na rhydd, ni all bod na gwryw na benyw: canys chwi oll, un ydych yng Nghrist Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sdim ots os ydych chi'n Iddew neu'n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu'n ddinesydd rhydd, yn ddyn neu'n wraig — dych chi i gyd fel un teulu sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid oes nac Iuddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwrryw a benyw; canys chwi oll ydych un yng Nghrist Iesu.