Galatians 3:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr Scrythur yn rac welet, y cyfiawnei Duw y Cenetloedd trwy ffydd, a rac euangelawdd i Abraham, gan ddywedyt, Yno‐ti y bendithir yr oll Genetloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan ragweled o’r Ysgrythyr mai trwy ffydd y cyfiawnhaai Duw y cenhedloedd, rhag-efengylodd i Abraham, “Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r ysgrythur, gan ragweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau’r cenhedloedd, rhagefengylodd wrth Abraham: Bendithir ynot ti yr holl genhedloedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw'n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e'i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw y newyddion da hwnnw gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac y mae'r Ysgrythur, wrth ragweld mai trwy ffydd y byddai Duw yn cyfiawnhau'r Cenhedloedd, wedi pregethu'r Efengyl ymlaen llaw wrth Abraham fel hyn: "Bendithir yr holl genhedloedd ynot ti."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Ysgrythyr, yn rhagweled mai trwy ffydd y cyfiawnhâi Duw y cenhedloedd, a rag‐efengylodd i Abraham, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.