Galatians 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwyddoch, pan‐yw trwy wendit y cnawt yr evangelais ywch y waith gyntaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond gwyddoch mai o achos gwaelder cnawdol yr efengylais i chwi y waith gyntaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond gwyddoch mai oherwydd gwendid fy nghnawd yr efengylais y waith gyntaf i chwi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi'r newyddion da i chi y tro cyntaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr gwyddoch mai o herwydd gwendid y cnawd y pregethais yr efengyl i chwi y tro cyntaf;