Galatians 4:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phrawf iad o hanof yr hyn oedd yn vy‐cnawt, ny ðirmigesoch, ac ny ’omeddesoch: anyd val Angel Duw, ie val Christ Iesu im d erbyniesoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac eich profedigaeth yn fy nghnawd ni ddirmygasoch ac ni wrthodasoch; eithr fel angel Duw y’m derbyniasoch, fel Crist Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r hyn oedd demtasiwn i chwi yn fy nghnawd i, nis dirmygasoch, ac nis ffieiddiasoch, eithr fy nerbyn i megis angel Duw, megis Crist Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'm profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl ar fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i'r fath groeso gynnoch chi — fel petawn i'n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'ch profedigaeth chwi yn fy nghnawd ni ddiystyrasoch, ac ni wrthodasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megys angel Duw, megys Crist Iesu.