Galatians 4:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa vn yno oedd eich dedwyddwch? can ys ydd wy’n test ywch, pe besei possibil, y tynnesech allan eich llygait, ac y rhoesech i mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa le, gan hyny, y mae eich ymfendigiad? canys tystiaf i chwi, pe buasai bosibl, eich llygaid a dynnasech allan ac a’u rhoisech i mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa le y mae’ch ymannerch, ynteu? Canys tystio yr wyf i chwi, â bod modd, y tynasech allan eich llygaid a’u rhoddi i mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a'u rhoesech i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i'n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu'ch llygaid eich hunain allan a'u rhoi nhw i mi petai'n bosib.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa le gan hynny y mae eich dedwyddiad o honoch eich hunain? canys tystio yr wyf i chwi, pe yn bosibl, y tynnasech allan eich llygaid ac a'u rhoisech i mi.