Galatians 4:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Aethym i gan hyny yn ’elyn ywch, o bleit i mi ddywedyt y gwir ywch?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly, ai yn elyn i chwi yr aethum wrth ddweud y gwir wrthych?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly a euthum i yn elyn i chwi, a mi’n dywedyd y gwir wrthych?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly a wyf wedi myned yn elyn i chwi, wrth ddywedyd y gwir i chwi?