Galatians 4:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y maen hwy yn eiddigedu s drosoch nyd yn iawn vodd: eithr hwy vynent eich cau chvvi allan, val y bei chwi vot ac eiddigedd am danynt wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Selog ydynt tuag attoch, nid yn dda, eithr eich cau chwi allan a ewyllysiant, fel y ceisioch hwynt-hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eich anwesu y maent hwy, nid ag amcan da, eithr ewyllysiant eich cau chwi allan, fel yr anwesoch hwythau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio'ch cael chi i'w dilyn nhw, ond dŷn nhw'n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy'ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae yna bobl sy'n rhoi sylw mawr ichwi, ond nid er eich lles; ceisio eich cau chwi allan y maent, er mwyn i chwi roi sylw iddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y maent yn eich ceisio yn selog, ond nid yn onest; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y byddo i chwi eu ceisio hwy yn selog.