Galatians 4:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithr y mae ef y dan ymgleddwyr a’ llywodraethwyr, y d y pryd a ’osodes y tat:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr tan warcheidwaid a disdeiniaid y mae hyd yr amser a osodwyd gan y tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond o dan ofalwyr y bydd, a goruchwylwyr, hyd yr amser a bennodd y tad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i'r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai'n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae dan geidwaid a goruchwylwyr hyd y dyddiad a benodwyd gan ei dad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr y mae efe dan warcheidwaid a goruchwylwyr hyd amser pennodedig y tâd.