Galatians 4:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mynnwn vy‐bot y gyd a chwi yr awrhon, val y gallwn newidio vy llef: can ys petrusaw ydd wyf am danoch. Yr Epistol y iiij. Sul yn y Grawys
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ewyllysiwn fod yn bresennol gyda chwi yn awr, a newidio fy llais, canys dyrysir fi ynoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond mynnwn fy mod yna yn eich plith yr awron, a newid fy nhôn, canys yr wyf mewn penbleth o’ch plegid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! — dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddai'n dda gennyf fod gyda chwi yn awr, a gostegu fy llais, oherwydd yr wyf mewn penbleth yn eich cylch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ewyllysiwn fod yn bresennol yn awr gyda chwi a newid fy llais, canys yr wyf mewn dyryswch yn eich cylch.