Galatians 4:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can yscrivenedic yw, Llawenha dydi ddiepil yr hon nyd wyt yu planta: tor allan a’ llefa, yr hon ny d wyt yn escor: can ’ys ir ddiffaeth y mae mwy o lawer o blant, nac i hon sy a gwr yddi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Llawenycha, anffrwythlawn, yr hon nid wyt yn eppilio; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; Canys mwy yw plant yr unig na’r hon sydd a chanddi ŵr.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys ysgrifenedig yw: Llawenha, dydi ddiepil, nad wyt yn planta; torr i ganu a bloeddia, dydi nad wyt yn esgor; canys llawer fydd plant yr un amhriod ragor honno y mae gŵr iddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di'r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi ŵr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Amdani hi mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd lawen, ti wraig ddiffrwyth sy'n methu cael plant! Bloeddia ganu'n uchel, ti sydd heb brofi poenau geni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r un sydd â gŵr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'n ysgrifenedig: "Llawenha, y wraig ddiffrwyth nad wyt yn dwyn plant; bloeddia ganu, y wraig nad wyt fyth mewn gwewyr esgor; oherwydd y mae plant y wraig ddiymgeledd yn lluosocach na phlant y wraig sydd gu373?r ganddi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ysgrifenedig yw:— Llawenycha, y diffrwyth, yr hon nid wyt yn dwyn plant; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae ganddi wr.