Galatians 4:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr megis y pryd hyny hwn a anet erwydd y cnawt, a ymlidiai yr vn a aned erwydd yr yspryt, ac velly yr awrhon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn a anwyd yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a anwyd yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr megis gynt yr erlidiai hwnnw, a genhedlwyd yn ôl y cnawd, yr un a genhedlwyd yn ôl yr Ysbryd, felly eto hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai'r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac fel y cafodd Isaac ei erlid gan fab y gaethferch, mae'r plant sydd wedi eu geni o'r Ysbryd Glân yn cael eu herlid gan y rhai sy'n dweud bod rhaid ymdrechu i gadw popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fel yr oedd plentyn y cnawd gynt yn erlid plentyn yr Ysbryd, felly y mae yn awr hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr megys y pryd hwnnw, yr hwn a aned yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a aned yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr.