Galatians 4:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly ni nheu pan oeddem vechein, oeddem yn gaith ion y dan y gwyddorion y byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly ninnau hefyd, pan oeddym tan oed, tan wyddorion y byd yr oeddym wedi ein caethiwo;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, mewn caethiwed yr oeddym oddi tan ysbrydion elfennau ’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly ninnau, pan oeddem dan oed, yr oeddem wedi ein caethiwo dan ysbrydion elfennig y cyfanfyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, a gedwid dan wyddorion y byd.